Caerdydd yn ystyried adroddiad puteindra

  • Cyhoeddwyd
Diwydiant rhyw
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r adroddiad yn dweud bod hyd at 95% o weithwyr rhyw yn dod o gefndiroedd treisgar

Mae arweinwyr cyngor yn ystyried os bydd camau'n cal eu cymryd er mwyn mynd i'r afael a phuteindra ar strydoedd Caerdydd.

Yn ôl ymchwil Cyngor Caerdydd mae rhyw 120 o fenywod yn ymwneud â phuteindra ar strydoedd y ddinas.

Dywedodd adroddiad diweddar gan bwyllgor o fewn y cyngor fod llawer ohonynt â phroblemau cyffuriau, a bod defnydd heroin a chrac cocên yn uchel.

Bydd y cabinet yn penderfynu ddydd Llun os bydd cynllun fyddai'n gweld puteiniaid yn cael eu symud o ardaloedd preswyl yn y ddinas, gan gynnwys Grangetown a Sblot.

'Dim strategaeth'

Roedd yr adroddiad, gafodd ei hysgrifennu gan Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion y cyngor, yn dweud nad oedd "strategaeth gynhwysfawr" ar gyfer delio gyda gweithwyr rhyw.

Mae puteindra stryd yn fater sydd wedi bod yn codi ei ben droeon yng Nghaerdydd, ers i ailddatblygiad hen ardal golau coch Caerdydd wthio'r gweithwyr rhyw i ardaloedd Sblot a Grangetown.

Cyn hynny roedd y mwyafrif llethol ohonynt yn gweithio yn ardal y dociau, o gwmpas hen dafarn y Custom House.

Yn yr adroddiad mae swyddogion yn argymell "ystyried manteision ac anfanteision dargyfeirio gwaith rhyw stryd a phuteindra i ardaloedd sydd ddim yn rhai preswyl er mwyn lleihau'r effaith ar ardaloedd preswyl".

'Pethau'n gwella'

Un sydd wedi bod yn dweud ers tro byd bod angen gwneud rhywbeth am y sefyllfa yw Valerie Howard o Grangetown.

Mae hi wedi bod yn arwain ymgyrch wedi ei anelu at yr Ymddiriedolaeth Heddlu a'r Gymuned lleol.

Dywedodd: "Rwyf dal yn berchen ar lyfr log roeddwn yn defnyddio i ysgrifennu lawr yr hyn roeddwn yn weld.

"Rwy'n credu eu bod nhw dal yn yr ardal ond mae pethau'n gwella.

"Maen nhw wedi symud, mae'n ymddangos. Wyddwn i ddim i le."

Argymhellion

Mae nifer o argymhellion yn yr adroddiad ynglŷn â sut fyddai'n bosib rhoi cymorth i buteiniaid ddianc o'r diwydiant rhyw.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Lleihau niwed ac amddiffyn cymunedau;
  • Hyfforddi staff iechyd a gwella iechyd a safon byw gweithwyr rhyw;
  • Ystyried darparu addysg ar gyfer grwpiau ysgol uwchradd ynglŷn â pherthnasau positif;
  • Ystyried os oes angen ymchwil pellach i sut mae pobl yn mynd fewn i'r diwydiant.

Mae swyddogion wedi dweud y dylai cyhoeddi mesur i reoleiddio'r diwydiant gael ei wrthod, gan nad yw hynny o fewn pŵer y cyngor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol