Gwyddel yn fuddugol ym mhumed cymal ras Tour of Britain
- Cyhoeddwyd

Y Gwyddel Sam Bennett oedd yn fuddugol ym mhumed cymal ras feicio Tour of Britain.
Ond mae Syr Bradley Wiggins yn parhau i fod ar y blaen wedi pum cymal.
Roedd y beicwyr yn rasio o Fachynlleth i Gaerffili ddydd Iau.
Roedd rhaid teithio drwy'r canolbarth a Bannau Brycheiniog a sawl allt heriol yn eu hwynebu, gan gynnwys un hiraf y ras, 6.7 o gilomedrau o hyd.
Dywedodd y Gwyddel: "Mae'r wythnos hon wedi bod yn anhygoel.
"Roedd hi'n anodd iawn ar y diwedd ... alla' i ddim credu 'mod i wedi ennill.
"Ro'n i'n gwybod hyn, os o'n i'n llwyddo i bara wrth ddringo'r mynydd, fe fydde digon o nerth ar ôl ar gyfer y sbrint."
Mark Cavendish oedd yn fuddugol ar bedwerydd diwrnod y ras ddydd Mercher pan aeth y beicwyr drwy Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy cyn gorffen am y diwrnod yn Llanberis yng Ngwynedd.
Llwyddodd Owain Doull o Gaerdydd i orffen yn y chweched safle.
Mae'r ras wyth cymal, 1,045 o gilomedrau o hyd, yn gorffen yn Llundain ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- 18 Medi 2013
- 15 Medi 2013