Dynes 72 oed wedi marw ar ôl taro twll ar y ffordd ger Trefynwy

  • Cyhoeddwyd
Twll yn y ffordd
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y crwner y gallai anafiadau Valerie Cadogan wedi bod yn llai pe bai'n gwisgo helmed

Mae cwest wedi clywed bod dynes 72 oed wedi marw ar ôl i'w beic daro twll yn y ffordd ger Trefynwy.

Roedd Valerie Cadogan yn seiclo gyda'i gŵr pan darodd dwll 25cm o hyd a 11cm o ddyfnder.

Disgynnodd o'r beic a tharo ei phen.

Ond dywedodd y crwner y gallai'r anafiadau fod yn llai pe bai hi wedi bod yn gwisgo helmed.

Cofnododd y crwner reithfarn o farwolaeth ddamweiniol.

Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i ysbyty ym Mryste ond bu farw'r diwrnod wedyn.

Clywodd y crwner, David Bowen, fod Cyngor Sir Fynwy wedi llenwi'r twll ar Ffordd y Santes Fair o fewn oriau.

Dywedodd Mark Watkins o adran priffyrdd y cyngor fod y ffordd yn cael ei harchwilio yn flynyddol ac nad oedd unrhyw adroddiadau am ddifrod ers yr archwiliad blaenorol ym mis Mehefin 2012.