Post Brenhinol yn recriwtio 280 o weithwyr dros dro
- Cyhoeddwyd

Mae'r Post Brenhinol yn recriwtio tua 280 o weithwyr ar gyfer canolfan sortio dros dro yn Llantrisant.
Bydd y gweithwyr yn rhan o'r 4,000 o bobl ychwanegol y mae'r Post Brenhinol yn eu cyflogi i ddelio gyda'r nifer fawr o barseli sy'n cael eu gyrru adeg y Nadolig.
Mae cyfanswm o 21,000 o weithwyr ychwanegol yn cael eu cyflogi gan y Post Brenhinol dros adeg y Nadolig.
Bydd 10 safle sortio dros dro yn agor dros Brydain, ac mae disgwyl i safle Llantrisant agor ym mis Tachwedd.
Mae 124,000 o ddynion a merched post yn sortio a dosbarthu llythyrau a pharseli drwy gydol y flwyddyn.
Adeg prysuraf
Ond dyma'r drydedd flwyddyn i'r Post Brenhinol gyflogi gweithwyr dros dro ar adeg brysuraf y flwyddyn i'r gwasanaeth.
Mae'r Post Brenhinol yn dweud bod staff dros dro yn elfen hanfodol i waith y gwasanaeth bost dros y Nadolig.
"Y Nadolig yw'r adeg prysuraf i'r Post Brenhinol a'n cwsmeriaid," meddai Mark Higson o'r Post Brenhinol.
Mae'n dweud bod y safleoedd dros dro yn cynyddu gallu'r gwasanaeth i ddelio hefo parseli, ac yn "gwella hyblygrwydd".
"Mae'r canolfannau sortio wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf," meddai.
"Maent yn rhan bwysig o fuddsoddiad y Post Brenhinol mewn darparu adnoddau i ddelio gyda'r bag post yn y modd mwyaf effeithiol posib."
Straeon perthnasol
- 12 Medi 2013
- 10 Gorffennaf 2013