Cwpwl yn gadael £550,000 i Ysbyty Glan Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Bob a Flora LivseyFfynhonnell y llun, Supplied by Awyr Las
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y cwpl am helpu pobl i gael triniaeth yn lleol

Mae cwpl wedi gadael £550,000 er mwyn gwella cyfleusterau mewn ysbyty.

Y diweddar Bob a Flora Livsey o Landrillo-yn-Rhos yn Sir Conwy benderfynodd y byddai Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, yn cael defnyddio'r arian.

Bydd yn helpu ariannu labordy cathetr fydd yn agor y flwyddyn nesa'.

Dywedodd eu nai John Griffiths y byddai arian y ddau gyn-athro ysgol gynradd yn "helpu pobl i gael triniaeth yn lleol".

Cwrddodd Mr a Mrs Livsey yn Ysgol Gynradd Abergele lle oedd y ddau'n gweithio.

'Gwerthfawrogi'

Bu farw Mrs Livsey yn 75 oed yn Ysbyty Glan Clwyd yn 1996 a bu farw ei gŵr mewn cartref gofal yn Y Rhyl yn 82 oed yn 2006.

Dywedodd y nai, un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Livsey: "Dewisodd fy modryb ac ewythr adael eu hystâd mewn cronfa ymddiriedolaeth er budd yr uned gofal y galon ac adrannau eraill yn Ysbyty Glan Clwyd.

"Roedd hyn am eu bod yn gwerthfawrogi'r gofal rhagorol yn ystod blynyddoedd olaf eu bywydau.

"Bu raid i Bob deithio i Loegr i gael triniaeth ei hun ac rwyf yn siŵr y byddai'n falch iawn bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i alluogi pobl gogledd Cymru i gael triniaeth yn lleol."

Dywedodd Awyr Las, elusen sy'n helpu ariannu gofal iechyd yng ngogledd Cymru, y byddai'r arian yn helpu "nifer sylweddol o gleifion o Gymru a fyddai wedi cael eu hanfon i Lerpwl a Chaer i dderbyn triniaeth y galon yn lleol".

Ychwanegodd Kirsty Thomson, pennaeth codi arian yr elusen: "Bydd y rhodd hael yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl â phroblemau'r galon yng ngogledd Cymru."