Babi: Cyhuddo dyn o lofruddio
- Cyhoeddwyd

Bu farw Alfie Sullock bedwar diwrnod wedi iddo fynd i'r ysbyty
Mae dyn 32 oed o ardal Nelson yng nghymoedd y de wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn sgil marwolaeth babi chwe wythnos oed.
Bydd Michael Pearce gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.
Aed â'r babi Alfie Sullock o'r Tyllgoed, Caerdydd, i'r ysbyty o gyfeiriad tŷ yn ardal Nelson ar Awst 16. Bu farw ar Awst 20.
Roedd Mr Pearce wedi bod gerbron llys ar gyhuddiad o ymosod ar y babi.