Dau yn yr ysbyty wedi damwain bws
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddamwain am 3.55 brynhawn Iau
Mae dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng dau fws am 3.55 brynhawn Iau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Roedd y ddamwain yn Sgwâr Gwent, Cwmbrân.
"Cafodd dau ambiwlans eu hanfon.
"Aed â chlaf i'r ysbyty oherwydd anafiadau i'w ben-glin ac un arall oherwydd poen yn ei frest."
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Stagecoach: "Roedd y ddau fws yn teithio'n araf ac rydym yn deall bod dau deithiwr wedi cael mân anafiadau.
"Cafodd y ddau gerbyd eu difrodi a bydd y ddamwain yn effeithio ar ein gwasanaeth heno.
"Rhaid pwysleisio mai diogelwch yw ein blaenoriaeth ac mae ymchwiliad wedi dechrau."