Priodas ffug: dyn wedi ei arestio

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, PA
disgrifiad o’r llunFe aeth yr heddlu i'r swyddfa gofrestru funudau yn unig cyn i'r gwasanaeth ddechrau

Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o gymryd rhan mewn priodas ffug.

Cafodd y gŵr o Ghana ei arestio toc wedi 12 brynhawn Mercher yn y swyddfa gofrestru yng Nghaerfyrddin.

Roedd yr heddlu wedi cael gwybodaeth o flaen llaw.

Mae'r dyn 31 oed wedi bod yn byw yn Llundain a'r awdurdodau'n dweud ei fod wedi dod i Brydain yn anghyfreithlon.

Ar ôl bod yn y ddalfa bydd yn gorfod gadael Prydain.

Dau ddyn arall

Dywedodd y Swyddfa Gartref mai'r bwriad oedd ei fod yn priodi menyw o Brydain oedd yn 25 oed.

Cafodd hi ei holi cyn cael ei rhyddhau.

Mae dau ddyn 27 a 28 oed o Ghana oedd yn yn y briodas wedi eu harestio ar amheuaeth o fod ym Mhrydain am gyfnod hirach nac y mae eu fisa'n caniatáu.

Disgwylir iddyn nhw hefyd adael Prydain.