Gŵyl gerddorol yn helpu dioddefwyr llifogydd Llanelwy
- Cyhoeddwyd

Bydd Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy eleni yn casglu arian i helpu dioddefwyr y llifogydd yn y ddinas.
Bydd casgliadau ariannol yn cael eu cynnal ar ôl perfformiadau opera am stori Feiblaidd Arch Noa.
Roedd dau berfformiad o 'Noye's Fludde' gan Benjamin Britten wedi cael eu cynllunio ymhell cyn llifogydd y llynedd.
Ar ôl ymgynghori â chyngor y dref, penderfynodd trefnwyr yr ŵyl y byddai'n briodol iddynt ddefnyddio'r achlysur er budd y bobl yr effeithiwyd arnynt.
Dywedodd Maer Llanelwy, y Cynghorydd John Roberts: "Bydd y casgliad ariannol yn dilyn perfformiadau Fludde Noye ar gyfer Apêl Llifogydd Llanelwy yn arwydd gwych gan drefnwyr yr Ŵyl, a rhywbeth yr ydym yn ei groesawu'n fawr iawn."
Bydd y cynhyrchiad gan Opera Canolbarth Cymru ar ddiwrnod agoriadol yr ŵyl yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar Fedi 20.
Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys y perfformiad cyntaf o waith corawl arbennig i ddathlu pen-blwydd Tywysog Cymru yn 65 oed.
Cyfansoddwyd y gwaith gan y cyfansoddwr brenhinol Paul Mealor a gafodd ei eni yn Llanelwy.
Bydd telynores swyddogol gyntaf y Tywysog, Catrin Finch, a'r delynores frenhinol bresennol, Hannah Stone, yn cymryd rhan yn y perfformiad.
Bydd perfformiadau gan artistiaid eraill yn cynnwys y Swingle Singers, y pianydd Peter Donohoe, ensemble cerddoriaeth gynnar La Serenissima a Cherddorfa Genedlaethol y BBC.
Sefydlwyd Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Gogledd Cymru yn 1972 gan y cyfansoddwr William Mathias.
Bu'n ymweld â phob lleoliad posibl yng ngogledd Cymru cyn penderfynu mai yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy y cafwyd yr acwsteg gorau.
Bydd yr ŵyl yn dechrau ar Fedi 20 ac yn gorffen ar Fedi 28.
Straeon perthnasol
- 13 Gorffennaf 2013
- 7 Mehefin 2013
- 27 Mai 2013