Beirniadu cytundeb arlwyo amgueddfa
- Cyhoeddwyd

Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi beirniadu'r Amgueddfa Genedlaethol am roi cytundeb arlwyo i gwmni o Ffrainc sydd ond yn gofyn am gynnwys 24% o gynnyrch o Gymru.
Yn ôl Lindsay Whittle, AC Dwyrain De Cymru, mae faint o gynnyrch o Gymru y mae'n orfodol i gwmni Elior o Ffrainc yn gynnwys ar y fwydlen yn "druenus o fach".
Dywedodd yr amgueddfa eu bod yn gorfod canfod cydbwysedd rhwng y dymuniad i gael cynnyrch o Gymru a'r angen i sicrhau'r gwerth gorau am arian cyhoeddus.
Datgelwyd y manylion mewn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru, ac mae'n ymwneud â chytundebau arlwyo ar dair o safleoedd Amgueddfa Cymru sef yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ac Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe.
Dyfarnwyd y cytundeb i gwmni Elior ym mis Ionawr eleni. Mae'r cytundeb yn para am ddeng mlynedd, ond mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys cymal terfynu ar ôl pum mlynedd.
'Annerbyniol'
Dywedodd Lindsay Whittle AC: "Mae'r Amgueddfa Genedlaethol yn un o atyniadau amlycaf Cymru gan ddenu dros filiwn o ymwelwyr bob blwyddyn.
"Ond mae gennym sefyllfa lle mae swyddogion yr amgueddfa yn methu rhoi lle i gynnyrch Cymru, ac i mi mae hynny'n annerbyniol.
"Mae'r lefel o fwyd a diod wedi'i dyfu yng Nghymru y mae'n rhaid i'r amgueddfa ei phrynu yn druenus o fach - yn mynd o 22% yn y flwyddyn gyntaf i 24% ym mlwyddyn pump.
"Dylent fod wedi sicrhau bod cynnyrch o Gymru i gyfrif am elfen lawer mwy o'r contract arlwyo ac mae'r diffyg uchelgais yn peri siom."
'Cydbwysedd'
Wrth ymateb i'r feirniadaeth dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: "Fel corff cyhoeddus rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng ein dymuniad i gael cynnyrch o Gymru a'r angen i sicrhau'r gwerth gorau am arian a phenodi partner sydd â'r sgiliau a'r arbenigedd i redeg consesiynau arlwyo llwyddiannus ar dri o'n prif safleoedd.
"Nid oeddem felly'n credu bod angen i ni bennu'r lefel o gynnyrch o Gymru yr oedd rhaid ei gyflenwi.
"Fe wnaethon ni wahodd ceisiadau gan nodi bod angen defnyddio cynnyrch o Gymru ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu yn y ceisiadau.
"Cytunwyd ar y lefel mewn trafodaethau gyda'r cwmni o ystyried eu cynnig am gynnyrch Cymreig yn y broses dendro."
Straeon perthnasol
- 10 Gorffennaf 2013
- 4 Mai 2013