Valencia 0-3 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Valencia 0-3 Abertawe
Pan ddaeth yr enwau o'r het ar gyfer rownd y grwpiau yng Nghynghrair Europa, doedd dim amheuaeth mai Valencia oedd y bygythiad mwyaf yn Grŵp A i Abertawe.
Gan mai'r gêm oddi cartref yn Sbaen oedd y gyntaf i'r Elyrch ar yr amserlen, roedd Michael Laudrup yn awyddus i gael dechreuad da - fe gafodd ddechrau gwell nag yr oedd unrhyw un wedi'i ddisgwyl.
Dechreuodd pethau fynd o'i le i Valencia wedi dim ond naw munud. Llwyddodd Wilfried Bony i ddwyn y bêl gan Adil Rami, ac wrth i Bony redeg tuag at y gôl fe gafodd ei dynnu i lawr gan amddiffynnwr Valencia.
Doedd dim dewis gan y dyfarnwr ond dangos y cerdyn coch i Rami am drosedd broffesiynol.
O fewn pedwar munud i hynny roedd Abertawe ar y blaen. Symudiad hyfryd i lawr yr asgell chwaith a Michu yn croesi i ganfod troed Bony - 1-0.
Roedd hi'n draed moch yn amddiffyn Valencia droeon, ond methodd yr Elyrch â manteisio ar sawl cyfle cyn yr egwyl.
Cic rydd ardderchog
Ond yna wedi 58 munud, daeth yr ail i'r ymwelwyr. Symudiad da arall a phas gywir gan Pozuelo yn canfod Michu cyn iddo yntau osod ei ergyd i gefn y rhwyd.
Pedwar munud wedi hynny fe gafodd Abertawe gic rydd rhyw 30 llath o'r gôl. Aeth ergyd Jonathan De Guzman yn syth i gornel ucha'r rhwyd - gôl oedd ddigon da i ennill unrhyw gêm.
Ar ddechrau'r ornest roedd gan Abertawe chwech o Sbaenwyr yn eu tîm - dim ond pedwar oedd gan Valencia ac roedd cefnogwyr y tîm cartref yn barod iawn i ddangos eu hanfodlonrwydd gyda'r perfformiad.
Byddai'r cefnogwyr o Abertawe a deithiodd i dde-ddwyrain Sbaen wedi bod yn hapus gyda buddugoliaeth. Roedd cael triphwynt mewn modd mor bendant a gyda pherfformiad mor wych yn well na hynny, ac mae'n argoeli'n dda ar gyfer gweddill y gystadleuaeth.