Heddlu'n canfod corff mewn cronfa
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod wedi canfod corff mewn cronfa ddŵr ar y ffin rhwng Merthyr Tudful a Phowys.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 5:00pm ddydd Iau.
Daeth yr heddlu o hyd i'r corff yng nghronfa Pontsticill yn agos i'r lan.
Does dim mwy o fanylion hyd yma, ac nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol.