Troseddwyr yn 'gorfodi' plant i yrru lluniau dros y we
- Cyhoeddwyd

Mae asiantaeth diogelu plant wedi rhybuddio bod plant yn cael eu gorfodi gan droseddwyr rhyw i anfon lluniau rhywiol dros y we.
Mae gwaith ymchwil gan CEOP, asiantaeth sy'n gwarchod buddiannau plant ar y rhyngrwyd, yn dweud bod rhai plant sy'n cael eu targedu yn ceisio lladd eu hunain, neu niweidio eu hunain yn ddifrifol.
Cafodd yr ymchwil ei gynnal dros ddwy flynedd, a darganfuwyd bod bron i 200 o blant o Brydain wedi eu gorfodi i yrru lluniau o natur rywiol dros y we, gyda rhai dioddefwyr mor ifanc â 8 oed.
Mae Dai Davies o elusen Kidscape wedi galw am wneud mwy i ddiogelu plant.
200 o blant
Mae'n debyg bod troseddwyr yn cyflwyno eu hunain fel pobl ifanc ar y we ac yn perswadio plant i rannu lluniau, ac yna yn eu gorfodi i barhau i wneud drwy fygwth dangos y lluniau i deulu neu ffrindiau.
Mae CEOP yn dweud bod bron i 200 o blant dros Brydain wedi eu targedu yn y modd yma, a bod chwech ohonynt wedi ceisio lladd eu hunain neu niweidio eu hunain yn ddifrifol, a bod un wedi lladd ei hun.
Mae Dai Davies yn ymgyrchu gyda Kidscape, ac mae'n dweud ei fod yn debyg bod llawer mwy o blant yn cael eu targedu mewn gwirionedd:
"Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn deall pa mor beryglus ydy hyn i'r plant a phobl ifanc yn y wlad yma. Mae 'na epidemig o hyn yn digwydd, dyna sy'n boenus."
Mae Mr Davies yn honni mai ond nifer fach o'r holl achosion sy'n cael eu hymchwilio gan yr heddlu, oherwydd diffyg adnoddau yn y maes:
"Dwi ddim yn gweld bod y gyfraith a'r heddlu yn gwneud digon, ac yn rhoi digon o bobl i daclo hyn, dyna'r broblem.
"Mae angen siarad mwy hefo plant, mae angen i rieni, athrawon a phlismyn wneud.
"Dylen nhw (plismyn) fynd i mewn i bob ysgol yn y wlad yma a siarad am y pwnc fel bod plant yn gwybod bod 'na droseddwyr allan yna."
Angen 'gwell dealltwriaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran CEOP eu bod yn gweithio'n agos gyda'r heddlu, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ddal troseddwyr rhyw ar y we.
Ond yn ôl cadeirydd un elusen, mae angen i oedolion gael gwell dealltwriaeth o'r we, a'r gwefannau sy'n cael eu defnyddio:
"Mae 'na broblem gan fod lot o oedolion ddim yn deall y dulliau cyfathrebu yma, efallai ein bod ni'n deall Twitter a Facebook, ond mae 'na gymaint o ddulliau eraill," meddai Helen Mary Jones, caeirydd Youth Cymru.
"Rydym ni'n credu ei fod yn hollbwysig bod pobl sy'n gweithio hefo pobl ifanc, yn enwedig rhieni, yn dod i ddeall y fath yma o systemau cyfathrebu, fel ein bod ni'n gallu dysgu ein pobl ifanc am sut i gadw'n ddiogel."
Mae CEOP yn dweud y dylai unrhyw oedolyn sy'n amau bod plentyn yn cael eu targedu ar y we gysylltu hefo elusen fel yr NSPCC, neu'r heddlu.
Straeon perthnasol
- 5 Chwefror 2013