Cyrch cyffuriau: arestio saith
- Cyhoeddwyd
Mae saith o bobl wedi eu harestio yn dilyn cyrch cyffuriau yng ngogledd Cymru a Lerpwl ddydd Mercher.
Cafodd yr heddlu hyd i swm sylweddol o gocên ac arian yng Nghefn Mawr a lleoliadau eraill yn Wrecsam a Lerpwl ac maent wedi cymryd 29 o gerbydau oddi yno fel rhan o'i hymchwiliad.
Mae'r rhai sydd wedi eu harestio wedi eu cyhuddo o fod gyda'r bwriad i ddosbarthu'r cyffur dosbarth A ac mae disgwyl i bedwar ymddangos o flaen llys ynadon fore Gwener.
Pedwar o ddynion ydynt gydag un sydd yn 39 oed yn hannu o Gefn Mawr, dyn arall 53 oed o Barc Caia, dyn 24 o Riwabon a dyn 39 oed o ardal Lerpwl.
Mae dau ddyn arall a gafodd eu harestio wedi eu rhyddhau ar fechniaeth a thrydydd person wedi ei gyhuddo mewn perthynas â throsedd trefn gyhoeddus.
Dywed yr heddlu y dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111.