Gwahardd ysmygu mewn carchardai?

  • Cyhoeddwyd
Man smoking cigaretteFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Disgwylir i gynllun peliot ddechrau flwyddyn nesaf

Mae gwasanaeth y carchardai yn ystyried gwahardd troseddwyr rhag gallu ysmygu mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr.

Un rheswm pam ei bod yn ystyried gwneud hyn yw bod carcharorion a gweithwyr sydd wedi eu heffeithio ar ôl anadlu'r mwg yn bygwth cymryd camau cyfreithiol yn eu herbyn.

Ond dywed ymgyrchwyr y byddai'r gwaharddiad yn anodd ei weithredu ac y gallai arwain at anhrefn yn y carchardai.

Mae amcangyfrif bod 80% o garcharorion yn ysmygu.

Mae disgwyl i gynllun peilot ddechrau'r flwyddyn nesaf ac os daw'r gwaharddiad i rym mae'n debygol y byddai'n digwydd yn 2015.

Bydd yr ysmygwyr yn cael cynnig patch nicotin yn hytrach na sigarét.

Effaith ar eraill

Ar hyn o bryd mae hawl gan garcharorion i ysmygu yn eu celloedd ond byddai'r gwaharddiad yn golygu na fyddai hyn yn bosib na chwaith mewn unrhyw ardaloedd eraill o'r carchardai.

Ers 2007 mae'r Gymdeithas Swyddogion Carchardai wedi dweud ei bod eisiau atal carcharorion rhag gallu ysmygu gan fynegi pryder am effaith ysmygu ar iechyd eraill.

Mi wnaethon nhw ddechrau ymgyrchu i newid y drefn wedi i'r gwaharddiad ddod i rym ar draws Prydain yn y gweithle ac mewn llefydd cyhoeddus caeedig.

Mae ei hysgrifennydd cyffredinol, Steve Gillan wedi dweud wrth bapur newydd The Times y byddent yn gweithio gyda'r Gweinidog Cyfiawnder i sicrhau y byddai'r gwaharddiad yn gweithio yn effeithiol.

Dim blaenoriaeth

Er ei fod yn cydnabod y gallai achosi aflonyddwch dywedodd wrth y papur fod y polisi wedi ei gyflwyno yn llwyddiannus mewn sefydliadau ar gyfer troseddwyr ifanc yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r elusen Howard League for Penal Reform yn dweud nad dyma ddylai fod y flaenoriaeth i garchardai ar hyn o bryd:

"Mae carchardai yn wynebu toriadau i'w cyllid. Mae'r adnoddau sydd yn cael eu rhoi i garchardai ac i'r staff wedi eu torri," meddai Andrew Neilson.

"Efallai bod y bwriad tu ôl i'r polisi yma yn un da ond mi fydd yn bendant yn rhoi llawer o bwysau ar garchardai sydd wedi eu hymestyn yn barod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol