Llawdriniaeth ar y galon: pennu dyddiad cwest

  • Cyhoeddwyd
Luke JenkinsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Luke Jenkins ym mis Ebrill y llynedd

Bydd cwest yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn sgil marwolaeth bachgen gafodd drawiad ar y galon ar ôl llawdriniaeth ar ei galon.

Mewn gwrandawiad adolygu cyn cwest penderfynwyd y byddai'r cwest dros gyfnod o dair wythnos ym mis Tachwedd.

Bydd tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig yn cael ei chasglu gan lygad-dystion, gan gynnwys arbenigwyr luniodd adroddiad i achos marwolaeth Luke Jenkins.

Prinder staff

Roedd disgwyl i'r bachgen saith oed, gafodd ei eni gyda nam ar ei galon, gael adferiad llawn wedi llawdriniaeth mewn ysbyty plant ym Mryste y llynedd.

Ond nid dyma a ddigwyddodd ac yn yr adroddiad i achos ei farwolaeth dywedwyd mai prinder staff dros wŷl y banc oedd un o'r rhesymau pam y bu fawr.

Bu'n rhaid galw'r llawfeddyg o'i gartref Ddydd Gwener y Groglith pan aeth y bachgen yn sâl.

Fe stopiodd ei galon am fwy na 40 munud cyn iddo gael ei adfywio ac wedyn fe gafodd lawdriniaeth.

Bu farw'r diwrnod wedyn.

Dywedodd yr adroddiad nad oedd y nyrsys yn gwybod lle roedd yr offer er mwyn adfywio'r bachgen ac nad oedd y tîm argyfwng yn gyfarwydd gyda'r peiriannau am fod trawiad ar y galon yn anghyffredin ar y ward.

Yn synnu

Mae ei reini o Laneirwg Caerdydd wedi dweud eu bod yn synnu at gynnwys yr adroddiad ac yn teimlo bod yna ddiffyg gofal wedi bod cyn ac ar y diwrnod y bu eu mab farw.

Eisoes maen nhw wedi dweud y bydden nhw'n ymladd i gael gwybod y gwir.

Y llynedd dywedodd Mr Jenkins: "Mae yna wyth achos arall wedi bod ers Ionawr 2012.

"Dydyn nhw ddim yn dweud wrthym pwy yw'r bobol yma ond fe ddylai hynny fod yn gyhoeddus.

"Rydyn ni wedi ysgrifennu yn dweud nad ydyn ni yn hapus gyda'r adroddiad am fod rhai pethau sydd ynddo ddim yn wir."

Ar y pryd dywedodd Deborah Lee, Prif Weithredwr dros dro Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Bryste, eu bod wedi cynnal ymchwiliad trylwyr i'r digwyddiad.