Gareth Rees yn chwarae rhan allweddol

  • Cyhoeddwyd
Clwb Criced MorgannwgFfynhonnell y llun, Glamorgan CCC

Cafodd Morgannwg gêm gyfartal wrth i Gareth Rees chwarae rhan allweddol yn eu hail fatiad yn erbyn Essex.

Sgoriodd Rees 76 o rediadau wrth i Forgannwg gyrraedd 181-2 yn eu hail fatiad ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Chelmsford.

Gorffennodd Essex eu batiad cynta' gyda 424-6 wrth i Mickleburgh gael 129 o rediadau a Shah'n cael 120.

Dechreuodd yr ymwelwyr ar 103 am 2 wedi i law amharu ar y chwarae.

Ond fe gollon nhw Ben Wright a Murray Goodwin er i Goodwin gyrraedd 65 cyn colli ei wiced.

Cafodd Essex 11 o bwyntiau a Morgannwg naw pwynt.

Roedd y canlyniad yn ergyd i Essex am eu bod yn gobeithio cael dyrchafiad i adran gyntaf y bencampwriaeth.

Sgôr:-

Morgannwg (batiad cyntaf) 322 i gyd allan (108.1 pelawd)

(ail fatiad) 181 am 2 (44 pelawd)

Essex (batiad cyntaf) = 424 am 6 (89 pelawd)