Ffermwyr yn derbyn arian yn gynt
- Cyhoeddwyd

Bydd ffermwyr Cymru'n derbyn taliad fferm sengl chwe wythnos yn gynt, medd Llywodraeth Cymru.
Ni fydd rhaid i ffermwyr sy'n gymwys wneud dim gan y bydd y taliad yn cael ei wneud yn awtomatig i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd lle rhoddwyd caniatâd dros dro i gladdu anifeiliaid yn sgil y tywydd drwg.
Bydd ffermwyr sydd ddim yn byw yn yr ardaloedd dan sylw derbyn taliad ar Ragfyr 1.
Dywedodd y llywodraeth mai Cymru fyddai'r unig wlad lle byddai'r taliad hwn.
Eira Mawrth
Effeithiodd eira trwm misoedd Mawrth ac Ebrill eleni ar ffermwyr.
Yn sgil hyn rhoddodd y llywodraeth ganiatâd i ffermwyr gladdu anifeiliaid ar eu ffermydd yn ardaloedd Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed.
Wedyn roedd ffrae rhwng rhai ffermwyr a'r Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies oherwydd bod rhai ohonyn nhw'n credu y dylai'r llywodraeth fod wedi talu iawndal am eu colledion.
Ymateb Llywodraeth Cymru oedd dweud eu bod wedi rhoi £500,000 i elusennau amaeth i helpu oherwydd prinder porthiant, symud stoc a gollwyd ac ar gyfer cyngor a chefnogaeth.
'Gweithredu nawr'
Dywedodd: "Rwy'n falch ein bod yn gallu darparu'r arian i ffermwyr ynghynt er mwyn helpu i leddfu ychydig o'r pwysau ariannol mae rhai yn eu hwynebu wedi colli ŵyn yn gynharach y flwyddyn hon.
"Rydym yn cyrraedd y pwynt yn y flwyddyn pan mae ffermwyr Cymru yn gwerthu eu hŵyn a'u defaid.
"Yn sgil hynny rwyf wedi penderfynu bod angen i ni weithredu er mwyn rhoi cymorth i ffermwyr sydd yn wynebu derbyn llai o incwm ar yr adeg yma o'r flwyddyn oherwydd colledion ym misoedd Mawrth ac Ebrill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2013
- Cyhoeddwyd9 Mai 2013
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2013