Cynghorau i wahardd gwefannau benthycwyr diwrnod cyflog?
- Cyhoeddwyd
Gall rhai cynghorau yng Nghymru wahardd gwefannau cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog (payday loans) mewn adeiladau'r cyngor.
Mae cynghorau Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg yn dweud eu bod yn ystyried gweithredu i atal "benthyca anghyfrifol".
Byddai'r gwaharddiad yn effeithio cyfrifiaduron mewn adeiladau'r cyngor, gan gynnwys llyfrgelloedd.
Mae'r Consumer Finance Association (CFA) yn dweud eu bod yn pryderu gall y mesur atal pobl rhag cyrraedd benthycwyr cyfrifol.
'Cyfraddau llog enfawr'
Mae tua 2 filiwn o bobl ym Mhrydain yn defnyddio benthyciadau diwrnod cyflog, sef benthyciadau byr dymor gyda chyfraddau llog cymharol uchel.
Mae rhai cynghorau yn Lloegr wedi atal y gwefannau yn barod, a nawr mae'r blaid Lafur yn Sir Fynwy eisiau gwneud yr un peth.
Maen nhw wedi cynnig mesur i atal mynediad i wefannau'r cwmnïau benthyca i'r cyhoedd a staff mewn llyfrgelloedd, adeiladau'r cyngor a mannau diwifr (wi-fi).
Dywedodd y cynghorydd Dimitri Batrouni, o'r blaid Lafur, ei fod yn credu bod cefnogaeth eang am y syniad.
"Rydw i wedi clywed tystiolaeth o bobl sydd wedi cael benthyciad diwrnod cyflog, ond sydd methu a'i dalu yn ôl oherwydd y cyfraddau llog enfawr," meddai.
"Rydym ni eisiau gweld mynediad i wefannau yn cael ei rwystro i geisio atal benthyca anghyfrifol. Ond yn amlwg os ydy pobl am eu defnyddio byddan nhw'n gwneud hynny rhywle arall.
"Mae o fwy am yrru neges gan y cyngor bod yna ddewisiadau eraill fel Cyngor Ar Bopeth neu Undebau Credyd."
Mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud y bydd adroddiad yn argymell rhwystro'r gwefannau yn cael ei drafod, tra bod Bro Morgannwg a Merthyr Tudful yn dweud eu bod yn ystyried y syniad.
Dywedodd cynghorau eraill y mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda nhw, nad oeddent yn ystyried gwahardd y safleoedd, ond yn edrych i hyrwyddo gwasanaethau cyngor ariannol.
Annheg?
Mae pennaeth Undeb Credyd Gogledd Cymru yn dweud y byddai'n cefnogi gwaharddiad o'r fath.
"Rydym ni'n teimlo bod y cwmnïau benthyca diwrnod cyflog yn gweithredu yn anghyfrifol," meddai John Killion.
"Dydyn nhw ddim yn ystyried gallu pobl i dalu'r arian yn ol.
"Dwi'n meddwl fod gan gynghorau gyfrifoldeb i edrych ar iechyd eu cymunedau, ac un peth sy'n effeithio hynny yw gwaharddiad ariannol."
Ond mae'r Consumer Finance Association (CFA), sy'n cynrychioli rhai o'r benthycwyr mwyaf yn y DU yn poeni am y fath rhwystrau.
Dywedodd Russell Hamblin-Boone, prif weithredwr y CFA y gall y gwaharddiad olygu na all bobl ddod o hyd i'r benthycwyr mwyaf cyfrifol.
"Mae benthycwyr cyfrifol yn esbonio'r costau yn glir, yn defnyddio asiantaethau credyd i wirio eich manylion a ni fyddan nhw'n benthyg os ydynt yn credu y bydd yn gwaethygu eich sefyllfa ariannol," meddai.
Straeon perthnasol
- 21 Tachwedd 2012
- 29 Hydref 2011