Adfywio Eglwys yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith adfywio i eglwys yng Nghaerdydd yn cael ei ddadorchuddio ddydd Sul.
Mae mosaig yn dangos Iesu Grist a cyfres o ffenestri enfawr wedi eu creu ym mynedfa Eglwys Sant Martin yn ardal y Rhath.
Cyn Archesgob Caergaint, yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth fydd yn dadorchuddio'r celfi newydd, cyn arwain gwasanaeth arbennig yn yr eglwys.
Dywedodd y Tad Irving Hamer o Eglwys Sant Martin: "Roedden ni eisiau coroni'r mynediad i'r eglwys ac adio lliw i flaen yr adeilad, rhywbeth mae'r mosaig yn llwyddo i wneud yn arbennig o dda.
Trawsnewid
"Mae'r holl brosiect wedi trawsnewid blaen yr adeilad a chanfyddiad pobl o'r lle.
"Mae'r gwydr ar flaen yr adeilad bellach yn le i bobl gwrdd, cynnal arddangosfeydd a chymdeithasu.
"O'r tu allan mae'n edrych fel lle delfrydol i fod oherwydd y ffenestri mawr.
"I gwblhau blaen y fynedfa roedden ni eisiau llun traddodiadol o'r Iesu oedd yn hawdd ei adnabod, ac mae'r mosaig yn gwneud hynny."
Cafodd y mosaig ei ddylunio a'i chreu gan Aidan Hart o'r Amwythig.
Bydd gwasanaeth arbennig i ddadorchuddio'r celfi yn cael ei gynnal ddydd Sul am 5.00pm.