Siom i Forgannwg yn Lord's
- Cyhoeddwyd

Mae Morgannwg wedi colli yn rownd derfynol cystadleuaeth YB40 yn erbyn Swydd Nottingham yn Lord's.
Penderfynodd Morgannwg i fowlio yn gyntaf a 244 am 8 wiced oedd sgôr terfynol Swydd Nottingham ar ddiwedd y 40 pelawd.
Llwyddodd bowlwyr Swydd Notts i gymryd wicedi cynnar, a doedd batwyr Morgannwg methu a chystadlu.
157 oedd eu cyfanswm, ac roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Notts yn y diwedd.
Buddugoliaeth gyfforddus
Hon oedd gem 40 pelawd olaf Simon Jones, a'r Cymro oedd y gorau o fowlwyr Morgannwg gan gymryd dwy wiced am 36 rhediad yn gynnar yn y gêm.
Capten Notts Christopher Read oedd y gorau o'r batwyr, sgoriodd 53 cyn cael ei ddal gan Christopher Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan.
Llwyddodd Hogan gymryd ei ail wiced wrth fowlio Stuart Broad gyda phêl olaf y batiad, tra bod Andrew Salter hefyd wedi cymryd dwy wiced am 41 rhediad.
Ni chafodd Morgannwg ddechreuad delfrydol i'w batiad nhw, wrth i Mark Wallace golli ei wiced am ond dau rediad.
Brwydrodd Christopher Cooke a Gareth Rees yn ol gyda 46 a 29 o rediadau yr un.
Ond pan ddaeth Samit Patel i mewn i ymosodiad Swydd Nottingham, newidiodd y gêm gyda'i fowlio gwych.
Cymrodd wicedi Cooke, Allenby a Goodwin am 21 o rediadau, a rhoi'r fantais i Notts.
Rhwygodd Ajmal Shahzad a Stuart Broad drwy dîm Morgannwg yn fuan wedyn i sicrhau buddugoliaeth gyntaf i Swydd Nottingham mewn cystadleuaeth undydd ers 1989.
Am ei berfformiad gwych gyda'r bêl, Samit Patel cafodd ei enwi yn seren y gêm.
Swydd Nottingham: 244 am 8 wiced (40 pelawd)
Morgannwg: 157 (33 pelawd)
Swydd Nottingham yn ennill o 87 rhediad.
Straeon perthnasol
- 21 Medi 2013
- 7 Medi 2013