Caerwysg 0 - 2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r fuddugoliaeth yn dod wedi rhediad o ganlyniadau siomedig i Gasnewydd
Caerwysg 0 - 2 Casnewydd
Mae Casnewydd wedi curo Caerwysg o 2-0 wedi rhediad o ganlyniadau siomedig i'r Alltudion diolch i goliau gan Conor Washington a Harry Worley.
Mae'r fuddugoliaeth yn symud Casnewydd i fyny un safle yn yr Ail Gynghrair i'r 11eg safle, tra bod Caerwysg yn disgyn pum safle.
Daeth gôl Conor Washington o dafliad hir, y blaenwr yn saethu i'r rhwyd wedi 23 munud o chwarae.
Chwaraeodd ran yn yr ail gôl hefyd, Washington yn creu cyfle i Harry Worley rwydo yn yr ail hanner a sicrhau buddugoliaeth werthfawr i Gasnewydd.