Aldershot 2 - 0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Aldershot 2 - 0 Wrecsam
Mae Aldershot wedi dod a rhediad o ganlyniadau da i Wrecsam i ben gyda buddugoliaeth o 2 - 0.
Wedi 45 munud cyfartal yn yr hanner cyntaf, roedd Mark Moseley yn y lle cywir i wneud y mwyaf o gamgymeriad gan Jay Harris i saethu heibio Joslain Mayebi ychydig wedi awr o chwarae.
Cafodd Wrecsam gyfle i ddod yn ôl i'r gêm ond doedd Andy Bishop methu gwneud y mwyaf o'r siawns.
Daeth Jordan Roberts ymlaen i Aldershot a sgorio'r ail gôl i'r tîm cartref gydag ond 10 munud yn weddill.
Mae'r golled yn ergyd i Wrecsam wedi iddyn nhw gael dechreuad caled i'r tymor, a dywedodd y rheolwr Andy Morrell nad oedd y perfformiad ddigon da.
"Doedden ni ddim yn haeddu ennill. Doedd y tîm ddim digon da, ddim hyd yn oed yn agos," meddai.
"Roedd y gwahaniaeth o'r perfformiad ddydd Mawrth yn enfawr."
Hwn oedd pumed fuddugoliaeth Aldershot y tymor yma, ond maen nhw'n parhau yn y pedair isaf wedi iddyn nhw golli 10 pwynt cyn dechrau'r tymor.