Lladrad ar ddyn oedrannus mewn siop bwci yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y lladrad yn siop William Hill yn Nhreganna
Mae'r heddlu yn chwilio am dau ddyn sydd wedi dwyn arian gan ddyn oedrannus yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw I siop bwci William Hill ar ffordd Cowbridge, Treganna, tua 11.00am fore Sadwrn.
Mae'r heddlu yn credu bod y dynion, oedd yn gwisgo dillad tywyll, wedi dwyn miloedd o bunnau.
Cafodd y siop ei chau tra bod yr heddlu yn ei archwilio ac mae ymchwiliadau yn parhau.
Mae'r dyn oedrannus yn cael cefnogaeth gan swyddogion yr heddlu.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol