Mott: 'Patel oedd y gwahaniaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr tîm criced Morgannwg, Matthew Mott wedi canmol bowliwr Swydd Nottingham Samit Patel, wedi buddugoliaeth Notts yn rownd derfynol cystadleuaeth YB40 yn Lord's ddydd Sadwrn.
Collodd Morgannwg o 87 rhediad wedi i fowlio Patel newid y gêm.
Llwyddodd i gymryd tair wiced am 21 rhediad, a helpu i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'w dîm.
Dywedodd Mott nad oedd ei dîm wedi gallu delio hefo Patel.
"Pan ddaeth ymlaen roedd gennym ni rhythm, ond daeth (Patel) a hynny i ben a doedden ni methu a'i gael yn ôl," meddai Mott, sy'n gadael Morgannwg ar ddiwedd y tymor.
Penderfynodd Morgannwg i fowlio yn gyntaf a 244 am 8 wiced oedd sgôr terfynol Swydd Nottingham ar ddiwedd y 40 pelawd.
Llwyddodd Samit Patel a bowlwyr Swydd Notts i gymryd wicedi cynnar, a doedd batwyr Morgannwg methu a chystadlu.
157 oedd eu cyfanswm, ac roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Notts yn y diwedd.
Cyfle 'allweddol'
Dywedodd Mott hefyd bod Morgannwg wedi methu cyfle allweddol pan fethodd Gareth Rees dal David Hussey, a bod hynny wedi bod yn drobwynt yn y gêm.
"Mae'r pethau yma yn digwydd mewn ffeinals," meddai.
"Doedd o ddim yn gyfle hawdd, ond byddai'n disgwyl ei chymryd fel arfer ac yn y diwedd roedd hi'n allweddol.
"O'r pwynt yna ymlaen llwyddodd Notts i adeiladu yn gryf, ac roedd Hussey yn edrych yn beryglus iawn."
Llwyddodd Jim Allenby a Chris Cooke i roi ychydig o obaith i'r Cymry gan sgorio 66 rhediad, ond dywedodd Mott mai bowlio Patel oedd wedi ennill y gêm I Notts.
"Chwaraeodd Allenby a Cooke yn arbennig o dda," meddai Mott.
"Ond cawson nhw eu bowlio gan Patel a dyna oedd y gwahaniaeth yn y diwedd.
"Dyna oedd y bartneriaeth fyddai wedi ennill y gêm i ni ond yn anffodus doedden ni methu a manteisio."
Bydd Matthew Mott yn gadael Morgannwg ar ddiwedd y tymor wedi tair blynedd fel hyfforddwr.
Mae Mott wedi penderfynu dychwelyd i Awstralia.
Straeon perthnasol
- 21 Medi 2013
- 20 Awst 2013