Heddlu yn ymchwilio i farwolaeth aneglur
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i farwolaeth dyn ifanc yn Sir Caerffili.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i gyfeiriad yn Rhymni am 05.34 fore Sadwrn, lle cafodd dyn 21 oed ei ddarganfod wedi marw.
Ar hyn o bryd mae'r heddlu yn trin ei farwolaeth fel un aneglur.
Mae ymchwiliadau yn parhau tra bod profion tocsicoleg a phost mortem yn cael eu cynnal.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101, neu gyda Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 gan roi'r rhif log 102 21/09/13.