Tan Rhondda: Trydydd ffatri ar dân
- Cyhoeddwyd

Mwg uwchben Llwynypia ger Tonypandy
Mae'r Gwasanaeth Dân yn dweud eu bod yn delio gyda tân mewn tair ffatri yn y Rhondda.
Dywedodd y Gwasanaeth Dân fod y tân wedi dechrau mewn un adeilad yn Llwynypia ger Tonypandy, cyn lledu i'r adeiladau y drws nesaf.
Cafodd y gwasanaeth eu galw am 4.25pm ac mae dros 60 o ddiffoddwyr yn ceisio delio gyda'r goelcerth.
Deellir bod y tân wedi dechrau mewn garej o'r enw Adam's Autos cyn symud i ffatri ddodrefn y drws nesaf.