Tân yn Llwynypia yn ddamweiniol

  • Cyhoeddwyd
Tân Llwynypia ger TonypandyFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Ar ei anterth roedd 70 o ddiffoddwyr ar y safle.

Dywedodd y gwasanaeth tân fod tân mewn uned ffatri yn Y Rhondda yn ddamweiniol.

Llwyddodd criwiau tân i ddiffodd y fflamau a effeithiodd ar chwe uned ffatri yn Llwynypia ger Tonypandy.

Ar ei anterth, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, roedd 70 o ddiffoddwyr ar y safle.

Yn ôl llefarydd, roedd yr adeilad 140 metr o hyd yn cynnwys garej, cwmni dodrefn a phedwar o fusnesau eraill.

Cafodd wyth o griwiau tân, peiriant dŵr a phlatfform hydrolig eu defnyddio i reoli'r tân.

Fe gafodd y gwasanaeth eu galw am 4:25yh ddydd Sul a llwyddodd criwiau i ddiffodd y tân tua 3am ddydd Llun.