Bale wedi ei anafu

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale (right)Ffynhonnell y llun, PA

Roedd yna siom i'r miloedd o fewn stadiwm y Bernabeu nos Sul ar ôl i Gareth Bale anafu ei goes yn ymarfer cyn gêm Real Madrid yn erbyn Getafe yn Lal Liga.

Hwn fyddai wedi bod ei ymddangosiad cyntaf yn y Bernabeu.

Gwnaed y penderfyniad na ddylai chwarae funudau yn unig cyn dechrau'r gêm.

Mae'n debyg ei fod yn dioddef gydag anaf i'w glun.

Madrid oedd yn fuddugol yn erbyn Getafe o 4-1.

Fe wnaeth Bale, peldroediwr drytaf y byd, ymuno â Real Madrid o Tottenham am £85 miliwn yn yr haf.

Sgoriodd ar ei ymddangosiad cyntaf i Madrid wrth i'r tîm gael gem gyfartal 2-2 oddi cartref yn Villarreal yr wythnos ddiwethaf.