Beiciwr modur wedi marw wedi damwain ar yr A5
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i feiciwr modur farw.
Roedd gwrthdrawiad rhwng y beic modur a lori ar yr A5 rhwng Maerdy a Chorwen am 1.56pm.
Y gred yw bod y dyn yn ei chwedegau.
Aed ag e mewn hofrennydd i Ysbyty Maelor Wrecsam ond bu farw yno.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.
Roedd rhan o'r A5 ynghau am gyfnod.