'Llanw'n dod i mewn'
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau diweddara' elusen yr RNLI yn nodi mai dyma oedd eu haf prysuraf ers 24 mlynedd.
Cafodd gwylwyr y glannau dros 900 o alwadau rhwng mis Mehefin ac Awst eleni a chafodd y cychod eu galw allan fwy na 700 o weithiau.
Mae 31 o orsafoedd gan yr elusen sydd yn achub pobl o'r dŵr ar draws Cymru, ac mae 24 ohonynt wedi dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y galwadau brys.
Rhyl oedd yr orsaf brysuraf yr haf hwn, gyda 76 o alwadau o'i gymharu â 31 yn 2012.
48 o achosion a gafwyd yn Ninbych-y-pysgod a 35 oedd y ffigwr y flwyddyn gynt.
Y tywydd braf oedd un o'r prif resymau dros y cynnydd, meddai'r RNLI, gyda mwy o bobl yn ymweld â'r traethau.
Ymhlith y rhai a gafodd eu hachub dros yr haf, roedd yr actores Jennifer Ellison, pump o bobl oedd mewn cwch rasio oedd ar dân, ynghyd â dolffin yn afon Dyfrdwy.
Dywedodd Stuart Thompson, un o reolwyr yr RNLI yn ne Cymru: "Mae'r tywydd da dros yr haf wedi golygu bod niferoedd uchel o ymwelwyr wedi dod i'n traethau ni yng Nghymru ac mae gwylwyr y glannau wedi bod yn brysur gydag ystod eang o achosion.
"Mae llawer o'r gwaith rydyn ni'n gwneud wedi ei selio ar atal damweiniau, helpu pobl sydd yn mynd i'r traeth i aros yn y lleoedd mwyaf diogel ar y traeth ac mewn ardaloedd lle nad oes perygl iddynt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2013
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012