Achos chwech ar gyhuddiad o gynllwynio i dwyllo yn y gwanwyn
- Published
Bydd chwech o flaen llys yn y gwanwyn wedi eu cyhuddo o gynllwynio i dwyllo wrth werthu pedwar o safleoedd glo brig yn ne Cymru.
Ymhlith y chwech mae cyn Brif Weithredwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Alan Whiteley, a dau o gyn gyfarwyddwyr cwmni Celtic Energy oedd yn gyfrifol am y safleoedd.
Daw'r achos wedi ymchwiliad swyddogion y Swyddfa Troseddau Difrifol.
Mae'r chwech wedi eu cyhuddo o gynllwynio i dwyllo cynghorau Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Phowys, ynghyd â'r Awdurdod Glo trwy "ragfarnu yn fwriadol eu gallu i orfodi rhwymedigaethau atgyweirio mewn perthynas â chloddio glo brig mewn safleoedd."
Y safleoedd dan sylw yw East Pit, Nant Helen (Nant Gyrlais), Selar a Margam yn ne Cymru.
'Cwmnïau tramor'
Roedd y twyll honedig yn ymwneud â sefydlu cwmnïau pwrpasol dramor a oedd yn eiddo i Eric Evans ac Alan Whiteley.
Honnir i hawl rydd-ddaliadol y safleoedd gael ei throsglwyddo'n ddiweddarach o gwmni Celtic Energy i'r cwmnïau newydd.
Yn ôl y cyhuddiad, roedd y diffynyddion yn "bwriadu i'r atebolrwydd ariannol dros adfer y safleoedd glo brig i safleoedd cefn gwlad a/neu amaethyddol symud o Celtic Energy i'r cwmnïau hynny,"gan "ryddhau rhai neu bob un o'r paratoadau yng nghyfrifon blynyddol Celtic Energy mewn perthynas â'r atebolrwydd ariannol i adfer y safleoedd glo brig hynny er budd y rhai hynny oedd yn rhan o'r cynllwyn."
Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Saunders, ei fod yn disgwyl i'r achos ddechrau yn fuan wedi'r Pasg y flwyddyn nesa'.
Does dim lleoliad wedi'i gadarnhau eto.
Cafodd y chwech eu rhyddhau ar fechnïaeth unwaith eto.
Straeon perthnasol
- Published
- 18 Mawrth 2011