AS yn galw am ymchwiliad i fusnesau

  • Cyhoeddwyd
Owen SmartFfynhonnell y llun, Taro Naw
Disgrifiad o’r llun,
Sefydlodd Owen Smart fusnes arall wythnosau yn unig wedi i Conwen Construction Ltd fynd i'r wal

Mae Aelod Seneddol o Gymru yn galw am ymchwiliad Seneddol i bryderon y gall pobl sydd â busnesau sydd wedi methu sefydlu cwmnïau newydd yn rhy hawdd heb dalu dyledion yr hen gwmni.

Roedd Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru, yn ymateb i bryderon ar rifyn cyntaf y gyfres newydd o Taro Naw - rhaglen BBC Cymru ar S4C.

Mae'r rhaglen wedi ymchwilio i faterion busnes Owen Smart, perchennog Conwen Construction Ltd. o Sir Gaerfyrddin.

Aeth y busnes i'r wal ddwy flynedd yn ôl gyda dyledion o dros £300,000 i ddwsinau o gwmnïau ac unigolion.

Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, fe sefydlodd Mr Smart gwmni newydd heb dalu dyledion Conwen.

Mae o leiaf 15 o'r cwmnïau ac unigolion dan sylw o fewn etholaeth Mr Edwards, sef Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Rhwystredigaeth

Dywedodd Mr Edwards: "Rwy'n credu bod yna ddadl dros gael ymchwiliad Seneddol gan y pwyllgor perthnasol yn Nhŷ'r Cyffredin.

"Rhaid i ni edrych ar y dystiolaeth er mwyn gweld beth yw maint y broblem, ac yna gweithredu'n briodol a chyhoeddi argymhellion sut y gellid addasu'r ddeddf i gau unrhyw fylchau sy'n bodoli yn y ddeddfwriaeth bresennol."

Roedd Conwen yn arfer prynu nwyddau gan nifer o fasnachwyr adeiladu ar draws de orllewin Cymru.

Un o'r rhai sy'n dal i aros am daliad o dros £5,000 yw Geraint Llewelyn, o Lliw Building Supplies ym Mhontardawe. Soniodd am ei rwystredigaeth wrth Taro Naw.

"I gael gafael ar Owen Smart ei hunan oedd e'n amhosib. Pan fydd bobol ddim yn siarad â chi ac mae arnyn nhw filoedd o bunnau i chi, y cyfan allwch chi wneud yw mynd i'r cwrt i weld a gewch chi'ch talu trwy'r cwrt," meddai.

Ond dair blynedd wedyn, mae Geraint Llewelyn ymhlith dwsinau o gredydwyr sy'n dal i aros am eu harian.

Mae Mr Smart yn gwadu ei fod wedi gweithredu yn anghyfreithlon gan ddweud: "Roedd Conwen Construction, fel sawl cwmni arall yng Nghymru, yn un a ddioddefodd yn y wasgfa ariannol a'r newid yn agwedd y banc a ddaeth yn sgil hynny."

Taro Naw, S4C, 9.30yh, 24 Medi 2013

Hefyd gan y BBC