Barn gweinidog ar newidiadau iechyd

  • Cyhoeddwyd
Protestio yn erbyn newidiadau iechyd
Disgrifiad o’r llun,
Bu sawl protest yn erbyn newidiadau arfaethdig i ofal iechyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda

Bydd Gweinidog Iechyd Cymru'n cyhoeddi ei benderfyniadau ar ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru'n ddiweddarach.

Bydd Mark Drakeford yn dweud wrth Fwrdd Iechyd Hywel Dda pa gynlluniau y dylen nhw eu cyflwyno.

Mae'r cyhoeddiad yn seiliedig ar gyngor gan banel o arbenigwyr a sefydliwyd gan Lywodraeth Cymru wedi i'r bwrdd iechyd a'r cyngor iechyd cymuned lleol fethu â dod i gytundeb ar rai agweddau o'r ad-drefnu.

Ymhlith hyn oedd cynlluniau dadleuol i ganoli gofal babanod yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin a newidiadau i ofal brys ac argyfwng yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli.

Cyfeirio at y gweinidog

Ym mis Ebrill eleni, dywedodd Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda nad oedden nhw'n fodlon cymeradwyo'r cynlluniau gan eu cyfeirio at y gweinidog iechyd.

Pan gyhoeddwyd yr argymhellion yn wreiddiol ym mis Ionawr, roedd y cynlluniau'n cynnwys :-

  • Ailgynllunio gofal brys ac argyfwng yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli i fod yn wasanaeth sy'n cael ei arwain gan nyrsys gyda chefnogaeth meddygon, er y byddai'r ysbyty yn cadw uned asesu 24/7;
  • Canoli gofal babanod mwy cymhleth (lefel 2) yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, fyddai'n arwain at gau Uned Arbennig Gofal Babanod yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd;
  • Cau dwy uned man anafiadau yn Ninbych-y-pysgod a Doc Penfro gyda staff yn symud i Llwynhelyg;
  • Cau Ysbyty Cymunedol Mynydd Mawr yn y Tymbl gan ddarparu gwasanaethau yn y gymuned ac yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Yn fuan wedyn fe wnaeth Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda wrthod y cyfan, gan gyfeirio'r cynlluniau at y gweinidog. Ond dywedodd y gweinidog iechyd ar y pryd, Lesley Griffiths, nad oedd hynny'n dderbyniol gan nad oedden nhw'n cynnig unrhyw welliannau.

Ymchwiliad barnwrol

Gorchmynnodd y dylai'r ddwy ochr drafod ymhellach ac, wedi'r trafodaethau hynny, dywedodd y CIC eu bod yn derbyn cau'r ddwy uned man anafiadau ac Ysbyty Mynydd Mawr, ac mae'r newidiadau yna eisoes wedi dechrau.

Ailgyfeiriwyd y ddau fater arall at y gweinidog newydd Mark Drakeford, ac wrth ymateb i hynny cyhoeddodd Mr Drakeford y byddai Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Ruth Hussey yn sefydlu panel i ystyried y materion.

Canlyniadau'r panel yna fydd yn cael eu cyhoeddi gan Mr Drakeford ddydd Mawrth, ond mewn proses ar wahân fe fydd penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i newid gofal brys ac argyfwng yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn destun ymchwiliad barnwrol yn dilyn ymgyrch lwyddiannus gan ymgyrchwyr lleol.

Bydd yr ymchwiliad barnwrol yn digwydd ym mis Tachwedd yng Nghaerdydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol