Roberts allan o gyfres yr hydref?

Jamie Roberts Image copyright PA

Mae pryder na fydd canolwr Cymru Jamie Roberts ar gael i chwarae yng nghyfres yr hydref.

Cafodd lawdriniaeth ar anaf i'w ffêr, a'r gred yw na fydd yn chwarae am hyd at ddau fis.

Mae Roberts ar ddechrau ei dymor cyntaf gyda'i glwb newydd Racing Metro yn Ffrainc ar ôl sgorio cais ym mhrawf olaf tyngedfennol y Llewod yn erbyn Awstralia yn yr haf.

Bydd Cymru'n herio De Affrica ar Dachwedd 9, ac yna gemau yn erbyn Ariannin a Tonga cyn y gêm olaf ar Dachwedd 30 yn erbyn Awstralia.

Oherwydd bod y gêm honno ddim yn cael ei chynnal ar benwythnos rhyngwladol swyddogol, ni fydd rhaid i Racing Metro rhyddhau Roberts i wynebu Awstralia hyd yn oed os fydd wedi gwella erbyn hynny.

Dywedodd hyfforddwr cynorthwyol Racing Metro Laurent Labis: "Fe ddychwelodd Jamie atom yn dilyn 10 diwrnod yng Nghaerdydd ar gyfer y llawdriniaeth.

"Fe fydd e allan am o leia' dau fis wedi'r llawdriniaeth a'r gobaith yw y bydd yn chwarae eto rhywbryd ym mis Tachwedd, ond mwy na thebyg y bydd yn methu gemau prawf Cymru."