'Caethwasiaeth': Apêl am wybodaeth
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi ailddechrau chwilio am gorff posib ar fferm rhwng Caerdydd a Chasnewydd, sy'n ganolbwynt ymchwiliad i honiadau o gaethwasiaeth.
Mae arbenigwyr wedi dechrau cloddio ar y safle ym Maerun ac mae'n bosib y gallai'r gwaith gymryd hyd at dri diwrnod.
Mae pedwar person yng ngofal yr heddlu yn dilyn cyrchoedd yng Nghaerdydd, Sir Fynwy a'r fferm ym Maerun.
Mae'r chwilio ar y safleoedd yng Nghaerdydd a Sir Fynwy bellach wedi dod i ben.
Yn y cyfamser, dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Griffiths, sy'n arwain yr ymchwiliad, ei fod yn ddiolchgar i'r cyhoedd sydd wedi rhannu gwybodaeth â nhw.
Ond gwnaeth apêl arbennig am wybodaeth ynglŷn â llythyr dienw, gan ofyn i'r sawl a'i ysgrifennodd i gysylltu â'r heddlu. Mae'r llythyr yn cynnwys gwybodaeth allai fod yn allweddol i'r ymchwiliad, meddai.
Mae Operation Imperial yn ystyried honiadau fod pobl wedi cael eu cadw mewn amgylchiadau gwael a'u gorfodi i weithio heb dâl.
Ymchwiliad
Aeth tîm o 100 o blismyn i'r tri safle yn gynnar fore Llun.
Dechreuodd yr ymchwiliad wedi i ddyn arall gael ei ganfod mewn amgylchiadau ofnadwy ym Maerun yn gynharach eleni.
Cafodd dyn o Ddwyrain Ewrop ei gludo i safle diogel wedi cyrchoedd ddydd Llun er mwyn asesu ei gyflwr corfforol a meddyliol. Credir ei fod yn hannu o Wlad Pwyl.
Mae'r pedwar a gafodd eu harestio - dyn 66 oed a dyn 42 oed o ardal Maerun, dyn 36 oed o ardal Caerdydd a menyw 42 oed o Ben-hŵ yn Sir Fynwy - yn dal i gael eu holi dan ofal yr heddlu.
'Corff'
Dywedodd y Prif Arolygydd Huw Nicholas o Heddlu Gwent bod y cyrchoedd wedi dod ar ddiwedd ymchwiliad chwe mis.
"Mae gennym wybodaeth y gallai fod corff wedi ei gladdu ar y safle, ac mae'n rhaid i ni wrth gwrs ymchwilio'n llawn i'r honiad yna," meddai.
"Rydym yn rhagweld y gallai hynny gymryd rhyw dri diwrnod."
Yn gynharach eleni cafwyd hyd i ddyn 43 oed, Darrell Simester o Kidderminster, Sir Gaerwrangon, yn byw ar y safle ar ôl iddo fod ar goll am dros ddegawd.
Mae Heddlu Gwent yn gweithio gyda'r Asiantaeth Droseddau Difrifol (SOCA), lluoedd eraill, Canolfan Fasnachu Pobl y DU, yr RSPCA a'r Groes Goch.
Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA eu bod wedi cael cais i asesu cyflwr lles nifer o geffylau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2013