Amazon i gyflogi mwy dros y Nadolig

Canolfan Amazon yn Abertawe Image copyright Getty Images
Image caption Bydd 1,500 o swyddi ychwanegol yn y ganolfan yn Abertawe dros y Nadolig

Mae cwmni siopa ar-lein Amazon yn bwriadu creu dros 1,500 o swyddi dros dro yn eu canolfan ddosbarthu yn Abertawe, sydd 50% yn fwy na'r nifer y llynedd.

Bydd gweithwyr yn cael eu cyflogi ar gytundebau tymor byr dros gyfnod prysur y Nadolig.

Ar draws y DU, bydd y cwmni siopa ar-lein yn cyflogi 15,000 o staff ychwanegol yn y cyfnod yn arwain at fis Rhagfyr.

Dywedodd Amazon eu bod yn disgwyl i "gannoedd lawer" o'r gweithwyr dros dro symud i swyddi parhaol o ganlyniad.

Yn ystod eu cyfnod prysuraf y llynedd, dywedodd y cwmni fod cwsmeriaid wedi archebu cyfanswm o 3.5 miliwn o eitemau mewn 24 awr - sy'n cyfateb i 44 eitem yr eiliad.

Yn 2012, creodd Amazon dros 10,000 o swyddi tymhorol ar draws y DU dros y Nadolig, gan gynnwys 1,000 yn Abertawe.

Straeon perthnasol