Fflatiau newydd ar safle hen ysbyty yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth yr hen ysbyty gau yn 1995
Mae cynghorwyr Sir Gâr wedi rhoi caniatad cynllunio i addasu hen adeilad Ysbyty'r Priordy yng Nghaerfyrddin yn 19 o fflatiau.
Fe wnaeth yr hen ysbyty gau yn 1995 gyda rhan o'r hen adeiladau yn cael eu dymchwel yn 2002 er mwyn codi fflatiau gerllaw.
Fe gafodd yr adeilad gwreiddiol, sy'n dyddio nôl i 1858, ei wneud yn adeilad rhestredig yn 1981.
Roedd swyddogion y cynllunio'r sir wedi mynegi pryder mawr am gyflwr yr adeilad presennol.
"Yn amlwg mae'r ffaith i'r safle gael ei esgeuluso dros y degawd diwethaf wedi gweld dirywiad yn yr adeilad," meddai adroddiad swyddogol.
Bu aelodau o'r pwyllgor cynllunio yn ymweld â'r safle cyn dod i'r penderfyniad i roi caniatad cynllunio.
Ffynhonnell y llun, Carmarthen Councll
Fe gafodd yr ysbyty gwreiddiol ei agor yn 1858
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol