Menyw o Gymru yng nghyflafan Kenya
- Cyhoeddwyd

Mae mam o dde Cymru wedi bod yn siarad am sut y taniwyd ergydion ati hi a'i theulu yn y gyflafan mewn canolfan siopa yn Nairobi, Kenya.
Dywedodd Lynsey Khatau, 23 oed ac sy'n byw yn ne Cymru ac yn Kenya, bod ei theulu wedi cael ei dargedu yn ystod yr ymosodiad ar ganolfan siopa Westgate ddydd Sadwrn.
Roedd Mrs Khatau, oedd yno gyda'i gŵr a'i mab pedair oed Caiz, bod un ergyd wedi ei methu o drwch blewyn a lladd y dyn oedd y tu ôl iddi.
Mae o leiaf 65 o bobl wedi cael eu lladd gan gynnwys chwech o Brydeinwyr.
Dywedodd Mrs Khatau, a symudodd i ddwyrain Affrica gyda'i gŵr Max pan gafodd ei alltudio o'r DU yn 2009: "Pan 'naethon nhw saethu ataf, fe welodd fy mab ddyn yn cael ei saethu y tu ôl i mi, felly ro'n i'n lwcus i beidio cael fy saethu fy hun.
"Mae'n noadd iawn ar hyn o bryd. Dyw fy mab ddim yn gallu cysgu ac yn cael hunllefau. Os yw e'n cysgu mae'n deffro yn llefain bod rhywun yn saethu at ei dad."
Roedd y teulu wedi mynd i'r ganolfan siopa fel trît i Caiz pan ddaeth yr ymosodiad gan wrthryfelwyr Islamaidd al-Shabab.
Mae'n cofio cerdded i mewn i'r ganolfan ac i'r archfarchnad, ac o fewn eiliadau roedd y trydan wedi'i ddiffodd.
"Y peth cyntaf ddigwyddodd oedd rhyw fath o ffrwydrad o dan gar neu rhywbeth y tu allan," meddai.
"Dyna'r peth cyntaf i ni glywed a wedyn saethu - rhyw ugain ergyd efallai, mewn llai na munud.
"Fe wnaethon ni rhedeg. Pan ddaethon ni allan o'r archfarchnad roedden nhw yn y ganolfan yn barod ac yn saethu - fe wnaethon ni redeg allan.
"Yr unig beth oedd yn mynd drwy fy meddwl oedd ein bod ni'n mynd i farw. Roedd pobl yn disgyn o'n cwmpas ni ymhobman."
Ychwanegodd Mrs Khatau ei bod yn awyddus i ddychwelyd i Gymru. Mae'n rhannu ei hamser rhwng byw ym Mhontllanfraith ger Caerffili a Nairobi.