Cyfraith newydd am gartrefi symudol
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i fesur newydd sy'n gwarchod hawliau trigolion cartrefi symudol gael ei basio'n gyfraith gan Aelodau Cynulliad ddydd Mercher.
Dangosodd adroddiad y llynedd bod rhai trigolion yn diodde' oherwydd ymddygiad bygythiol, diegwyddor a throseddol wrth law rhai perchnogion safleoedd.
Nod mesur preifat yr AC Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black yw rhoi hawliau clir i drigolion a pherchnogion safleoedd.
Dywedodd Mr Black bod llawer o'r 96 safle yng Nghymru yn cael eu rhedeg yn dda, ond nad oes cymorth cyfreithiol ar gael pan mae anghydfod yn codi.
"O dan y ddeddf bresennol does fawr ddim yn gwarchod trigolion rhag perchnogion diegwyddor, er mai lleiafrif ohonyn nhw sy'n defnyddio'u safle er mwyn elwa'n bersonol," meddai Mr Black.
"Gall problemau gynnwys rheolaeth wael o'r safle ac atal gwerthiant cyfreithiol - bydd fy mesur yn atal yr annhegwch yma.
"Os fydd yn cael ei basio ddydd Mercher, bydd gan Gymru system newydd a fydd yn gwarchod pobl drwy gyflwyno prosesau hawdd a hawliau clir i'r trigolion ac i'r perchnogion."
Ychwanegodd Mr Black y byddai prawf i berchnogion a system drwyddedu.
Dyma fydd y mesur preifat cyntaf i gyrraedd y cymal olaf ers i bwerau deddfu ychwanegol gael eu datganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol o San Steffan yn 2011.
Straeon perthnasol
- 15 Hydref 2012
- 15 Hydref 2012