Morgannwg: 100 wiced i Hogan
- Cyhoeddwyd

Ar ôl y siom o golli yn rownd derfynol y YB40 yn Lord's ddydd Sadwrn, roedd Morgannwg am orffen y tymor gyda buddugoliaeth yn eu gêm olaf y tymor hwn ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerloyw yng Nghaerdydd.
Dechreuodd y diwrnod gyda digwyddiad nodedig wrth i Michael Hogan gipio'i ganfed wiced y tymor hwn.
Ond yr ymwelwyr gafodd y gorau o bethau cyn ac ar ôl cinio wrth i Chris Dent sgorio 84 gyda chymorth batwyr eraill.
Ond yna daeth Dean Cosker a Ruaridh Smith i'r ymosod gan gipio dwy wiced yr un.
Pan ddaeth y chwarae i ben yn gynnar oherwydd y golau gwael, roedd Sir Gaerloyw wedi sgorio 228 am wyth wiced.