West Ham 3-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Caerdydd allan o Gwpan Capital One ar ôl colli yn y drydedd rownd yn erbyn West Ham Utd nos Fawrth.

Go brin y bydd y canlyniad yn destun colli cwsg i'r rheolwr Malky Mackay gan mai aros yn yr Uwchgynghrair fydd y flaenoriaeth y tymor hwn.

Er hynny fe fydd yn siomedig gyda'r modd y collwyd y gêm o fewn y munudau agoriadol.

Cafodd Caerdydd y dechrau gwaethaf posib wrth i Ravel Morrison sgorio i'r tîm cartref wedi dim ond dau funud, gyda Matt Jarvis yn creu.

Dim ond saith munud o'r gêm oedd wedi mynd pan sgoriodd Jarvis ei hun i'w gwneud hi'n 2-0.

Gyda West Ham yn rheoli'n llwyr, roedd hi'n dipyn o syndod gweld Caerdydd yn dod yn ôl i mewn i'r gêm o fewn eiliadau i'r egwyl pan sgoriodd Craig Noone gydag ergyd gywir gyntaf Caerdydd drwy'r gêm.

Ond yn yr ail hanner roedd pethau'n wahanol iawn.

Roedd llawer mwy o bwrpas yn perthyn i chwarae Caerdydd yn yr ail gyfnod, ac fe ddaeth y gôl yr oedd hynny'n ei haeddu wedi 76 munud.

Roedd Peter Odemwinge yn dechrau gêm i Gaerdydd am y tro cyntaf ers ymuno â'r clwb o West Bromwich Albion, ac yntau gafodd y gôl.

Fel yr oedd yn ymddangos y byddai angen hanner awr ychwanegol i wahanu'r ddau dîm, fe sgoriodd Ricardo Vaz Te gôl i West Ham gyda dau funud yn weddill i ennill y gêm i'r tîm cartref.

Daeth un cyfle arall i Gaerdydd o gic gornel, ond llwyddodd James Collins i glirio'r ergyd a sicrhau'r fuddugoliaeth.