Gaerwen yw'r dewis i barc gwyddoniaeth
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi mai safle 50 erw yn y Gaerwen ar Ynys Môn sy'n cael ei ffafrio fel lleoliad ar gyfer Parc Gwyddoniaeth newydd fydd yn gwasanaethu gogledd orllewin Cymru.
Fe fydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn gartref i brosiectau ymchwil mewn nifer o feysydd gan gynnwys ynni, a gwasanaethau amgylcheddol.
Mae'r safle yn y Gaerwen yn berchen i Gyngor Sir Ynys Môn ac yn un o dri ar yr ynys sydd ar restr fer a luniwyd gan dîm project y parc.
Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Gadawodd Ieuan Wyn Jones ei swydd fel Aelod Cynulliad Ynys Môn yn gynharach eleni er mwyn bod yn gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, a dywedodd:
'Potensial mawr'
"Ar ôl proses fewnol drylwyr, rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod gennym safle dewisol i broject y parc gwyddoniaeth, fydd yn allweddol i greu swyddi da yng ngogledd orllewin Cymru.
"Bydd y parc yn gartref i brojectau ymchwil sy'n gysylltiedig â diwydiant ac ymchwil sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, sydd naill ai'n rhan o Brifysgol Bangor eisoes neu'n rhan o fusnesau bach a chanolig neu gwmnïau mawr.
"Trwy gynnig adeiladau cyfoes a'r adnoddau diweddaraf, rydym yn gobeithio denu gweithgareddau ymchwil a datblygu busnesau bach a chanolig sydd â'r potensial i dyfu a chwmnïau mawr a rhai o'r ymchwilwyr gorau i Gymru.
"Mae'r dystiolaeth i gyd yn dangos bod gan y meysydd hyn botensial mawr o ran creu swyddi gyda chyflogau llawer uwch na'r cyflog cyfartalog yng Nghymru ar hyn o bryd.
"Rwyf eisoes wedi cael sgyrsiau cadarnhaol gyda thri awdurdod lleol yn yr ardal, sef Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Rwy'n sicr y bydd y parc o fudd i ogledd Cymru i gyd wrth iddo ddatblygu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2013