'Caethwasiaeth': Arestio tri dyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i honiadau o gaethwasiaeth yn ardal Casnewydd wedi arestio tri o bobl eraill.
Daw hyn ar ôl i blismyn gynnal cyrch yn ardal Llansanffraid Gwynllwg ar gyrion y ddinas ddydd Mawrth.
Dywed yr heddlu iddynt arestio dyn 53 oed, dyn 38 oed a dyn 20 oed mewn ffarm yn ardal Llansanffraid Gwynllwg ac mae'r tri yn dod o'r ardal yma.
Yn ystod y cyrch cafwyd hyd i ddyn 60 oed ar y safle.
Aed ag ef i ganolfan feddygol lle mae arbenigwyr y Groes Goch yn asesu ei gyflwr.
Ymchwiliad cymhleth
Dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Paul Griffiths sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth ond sy'n datblygu yn gyflym ac rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth."
Apeliodd unwaith eto i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 66 23/09/13.
"Rwyf hefyd yn gwneud ple bersonol i'r sawl wnaeth anfon llythyr dienw gafodd ei anfon i'r heddlu yn gwneud honiadau penodol a hefyd yn rhoi gwybodaeth oedd yn berthnasol i'r ymchwiliad hwn."
Mae swyddogion yr heddlu yn parhau i gloddio ar safle ym Maerun ac yn credu y gallai corff fod wedi'i gladdu yno.
Fe allai'r gwaith chwilio barhau tan y penwythnos.
Mae'r heddlu hefyd wedi cael estyniad o 24 awr i holi pedwar o bobl gafodd eu harestio ddydd Llun fel rhan o'u hymchwiliad i gaethwasiaeth.
Dechreuodd yr ymchwiliad - Operation Imperial - yn gynharach eleni pan gafwyd hyd i ddyn 43 oed, Darrell Simester o Kidderminster, Sir Gaerwrangon, oedd yn byw ar safle ym Maerun ar gyrion Casnewydd.
Roedd o wedi bod ar goll am dros ddegawd.
Mae Heddlu Gwent yn gweithio gyda'r Asiantaeth Droseddau Difrifol (SOCA), lluoedd eraill, Canolfan Fasnachu Pobl y DU, yr RSPCA a'r Groes Goch.
Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA eu bod wedi cael cais i asesu cyflwr lles nifer o geffylau.