Stena Line: Swyddi yn y fantol
- Cyhoeddwyd

Fe allai 26 o swyddi gael eu colli yng Nghymru
Mae swyddi mewn perygl o gael eu colli gyda'r cwmni llongau Stena Line.
Dywed y cwmni Ewropeaidd eu bod wedi gwneud colledion yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac maent wedi dechrau ymgynghoriad gyda'r gweithwyr a chynrychiolwyr yr undeb.
Yng Nghaergybi fe allai 21 o swyddi fod yn y fantol a phump yn Abergwaun.
Ar ôl cynnal adolygiad er mwyn ceisio lleihau costau mae Stena Line wedi penderfynu ad-drefnu staff yn y porthladdoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni na allan nhw barhau i wneud colledion a'u bod wedi edrych ar sawl maes lle y mae modd lleihau costau a gweithio yn fwy effeithiol.
Ychwanegodd llefarydd na fydd modd dweud yn bendant faint o swyddi fydd yn cael eu colli tan bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol