Tân mewn bynglo: Menyw mewn cyflwr difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae menyw mewn cyflwr difrifol yn dilyn tân mewn byngalo yn Y Waun yn Wrecsam.
Digwyddodd y tân am 1.30 fore Mercher ac anfonwyd dynion tân o ardal Y Waun, y Wrecsam a Llangollen i'r bynglo ym mharc Lodge Valley.
Cafodd menyw 65 oed ei hachub o'r adeilad ac ar ôl cael ei thrin am effaith anadlu mwg ac fe aeth i'r ysbyty.
Mae ci a oedd yn y bynglo hefyd mewn cyflwr difrifol.
Mae ymchwiliad wedi dechrau er mwyn dod i wybod sut y cychwynodd y tân.