Canolfan alwadau i gau?
- Cyhoeddwyd
Dywed cwmni TUI UK & Ireland eu bod yn bwriadu cau eu canolfan alwadau yn Abertawe.
Mae 48 yn cael eu cyflogi yn y ganolfan, gan gynnwys 34 o swyddi llawn amser.
Mae'r cwmni yn gyfrifol am frandiau gwyliau Thomson a First Choice.
Dywed y cwmni eu bod wedi dechrau cyfnod o ymgynghori 45 diwrnod gyda'r gweithlu.
Dyw'r penderfyniad ddim yn effeithio ar y 18 o staff sy'n cael eu cyflogi yn yr adran gyfrifon yn Abertawe.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod y penderfyniad wedi bod yn un anodd ac mai eu blaenoriaeth nawr yw lles y gweithwyr fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad.