Lansio cynllun 1,000 o dai fforddiadwy
- Cyhoeddwyd

Bydd cynllun gwerth £120 miliwn i gynorthwyo cymdeithasau tai i godi 1,000 o dai fforddiadwy yng Nghymru yn cael ei lansio ddydd Iau.
Bydd y cymdeithasau yn rhannu £4m gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn am 30 mlynedd er mwyn iddyn nhw fedru benthyg arian gan fenthycwyr preifat.
Fe fyddan nhw'n defnyddi'r grantiau i dalu'r llog ac i ad-dalu'r benthyciadau.
'Galw cynyddol'
Dywedodd y Gweinidog Tai Carl Sargeant bod y Cynllun Grant Ariannu Tai Cymru yn rhan o chwilio am ffyrdd newydd o gynyddu'r cyflenwad o gartrefi.
Dywedodd: "Mae'n hanfodol bod y sectorau preifat a chyhoeddus yn cael cefnogaeth wrth godi tai newydd fel y gallwn barhau i weithio tuag at ein nod o ddarparu 7,500 o dai fforddiadwy yn ystod oes y llywodraeth yma.
"Mae codi tai newydd yn bwysig nid yn unig wrth gwrdd â'r galw cynyddol am dai mewn cymunedau, ond hefyd fel modd o ddarparu gwaith i gynorthwyo pobl allan o dlodi ac i wrthsefyll effeithiau hynod niweidiol 'treth ystafell wely' llywodraeth y DU."
Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt bod y cynllun yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ganfod "ffyrdd newydd a dyfeisgar o fuddsoddi mewn tai fforddiadwy ar draws Cymru".
'Cynllun cyffrous'
Bydd y cwmni rheoli cyllid rhyngwladol M&G Investments yn benthyg £98 miliwn i'r cynllun - sef y brif ffynhonnell.
Fe fydd yr 20 o gymdeithasau tai sy'n rhan o'r cynllun hefyd yn benthyg £58m arall gan y cwmni, ond heb ddibynnu ar y grant.
Fe fydd y £4m yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r cymdeithasau i ad-dalu'r arian a fenthycwyd ac i dalu'r llog.
Dywedodd Mark Davie, pennaeth tai cymdeithasol gyda M&G Investments: "Rydym yn falch o gefnogi'r cynllun cyffrous yma gan Lywodraeth Cymru fydd yn gweld cymdeithasau tai Cymru yn cael mynediad at £153m o gyllid tymor hir er mwyn ateb y galw i godi tai dros y blynyddoedd i ddod."
'Dyfeisgar'
Roedd Nick Bennett, prif weithredwr Tai Cymunedol Cymru, hefyd yn croesawu'r cynllun gan ddweud:
"Gyda nifer o gymdeithasau tai heb fanteisio'n flaenorol ar fathau eraill o fenthyciadau mae hyn yn gyfle i fod yn ddyfeisgar.
"Mae'r bartneriaeth, a'r diddordeb sy'n cael ei rannu mewn codi tai newydd, yn golygu y bydd cymdeithasau tai yn darparu'r gallu i fenthyca a Llywodraeth Cymru'n ffynhonnell i'r grant refeniw."
Bydd y cynllun yn cael ei lansio ddydd Iau wrth i weinidogion yn ymweld ag un o'r cynlluniau tai cyntaf i gael ei ariannu, sef Bronte House ar Ffordd Casnewydd yng Nghaerdydd.
O dan ofal Linc Cymru bydd Bronte House yn cynnwys 38 o fflatiau un a dau lofft ar gyfer pobl sy'n byw mewn eiddo awdurdod lleol neu gymdeithasau tai ond sydd am symud i gartref llai.
Ymhlith cynlluniau eraill sydd wedi eu cymeradwyo mae Tyddyn Pandy yng Nghaernarfon, Gwynedd, a Gwaun Helyg yng Nglyn Ebwy, Blaenau Gwent.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2013
- Cyhoeddwyd3 Medi 2013
- Cyhoeddwyd2 Medi 2013
- Cyhoeddwyd9 Awst 2013