Perfformiad Abertawe yn siomi Laudrup
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup wedi dweud y dylai ei dîm fod wedi ennill eu gêm gyntaf yng Nghwpan Capital One nos Fercher.
Collodd y deiliaid o 3-1 yn erbyn Birmingham yn St Andrews, gyda Wilfried Bony, Alejandro Pozuelo a Roland Lamah i gyd yn methu cyfleoedd da i sgorio i'r Elyrch.
Dywedodd Laudrup y dylai Abertawe fod wedi ennill y gêm yn yr hanner cyntaf.
Ond daeth goliau i Birmingham gan Dan Burn, Matt Green a Tom Adeyemi, i ddod ag ymgyrch Abertawe yn y gystadleuaeth i ben.
Siom
Dywedodd Laudrup nad oedd yn flin hefo perfformiad ei dim:
"Nid blin yw'r gair cywir," meddai.
"Gallen ni a dylen ni fod wedi gwneud yn well. Dylai'r tîm fod wedi ennill y gêm yn yr hanner cyntaf.
"Yna byddai cyfle i ni symud y bel fwy yn yr ail hanner, ond yn hytrach roedden ni ar ei hôl hi o 1-0 ac yn gorfod ymladd yn galed.
"Ni oedd yr enillwyr y llynedd a phan rydych chi'n ddeiliaid rydych chi eisiau mynd yn bellach na hyn. Dyma'r gêm gyntaf ac rydyn ni allan mewn gêm y gallen ni fod wedi ei hennill."
10 newid
Fe wnaeth Michael Laudrup ddeg newid i'w dîm wrth i'r Elyrch ddechrau amddiffyn y Cwpan nos Fercher.
Roedd hynny'n adlewyrchu blaenoriaethau'r clwb wrth iddyn nhw geisio cystadlu yn Uwchgynghrair Lloegr a Chynghrair Europa am y tro cyntaf y tymor hwn.
Dywedodd y rheolwr fod ei dîm wedi talu'r pris am golli cyfleoedd:
"Gallen ni fod wedi bod tair neu bedair gôl ar y blaen erbyn yr egwyl, ond doedden ni ddim a dywedais; un diwrnod byddwn yn cael ein cosbi - doeddwn i ddim yn gwybod mai heddiw fyddai hynny."
Enillodd Abertawe'r gystadleuaeth y llynedd gan guro Bradford yn y rownd derfynol o 5-0.
Bydd Birmingham yn mynd ymlaen i chwarae Stoke yn y rownd nesaf.
Straeon perthnasol
- 25 Medi 2013
- 24 Chwefror 2013