Amgueddfa newydd i dref Dinbych?

  • Cyhoeddwyd
Hen lys ynadon Dinbych
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y penderfyniad i gau'r llys ynadon yn un dadleuol

Mae Cyngor Dinbych wedi prynu llys ynadon y dref, gyda'r gobaith o'i droi yn amgueddfa.

Dair blynedd yn ôl fe benderfynodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gau dros naw deg o lysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr gyda Dinbych yn un ohonynt.

Ar y pryd fe ddywedodd y weinyddiaeth bod y safle wedi dirywio ac nad oedd yn gweddu bellach.

Roedden nhw yn dadlau y byddai'n costio dros chwarter miliwn o bunnau i'w gynnal a'i gadw ac y byddai costau ychwanegol er mwyn adnewyddu'r lle.

Cyflogi yn lleol

Ddydd Gwener yw'r diwrnod cau swyddogol ar gyfer y llys ond mae wedi bod yn wag ers blwyddyn.

Ers i'r penderfyniad gael ei wneud mae'r gwaith yn raddol wedi ei drosglwyddo i Brestatyn- materion teuluol, achosion troseddol na fyddai'n arwain at garcharu'r diffynnydd, a chosbau penodol am or-yrru.

Ond mae rhai o drigolion Dinbych dal wedi ei digio bod y llys wedi cau.

"Oeddan ni yn siomedig dros ben a wnaethon ni wneud llythyr go gryf i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder oherwydd roedd o yn cyflogi tua deg ar hugain i ddeugain o bobl. Wrth gwrs mae hynny yn mynd at economi'r dre," meddai'r Cynghorydd Raymond Bartley.

Dydy'r ynad heddwch John Glyn Jones chwaith ddim yn hapus. Mae o'n eistedd ar fainc Sir Ddinbych ers dros ugain mlynedd ac yn dweud mai'r unig lys ar ôl yn y sir erbyn hyn yw un Prestatyn:

"...wrth gwrs mae ardal yr arfordir yn dra gwahanol i ardal cefn gwlad yn y sir. Mae cefn gwlad fel bysa fo yn dioddef bob tro efo canoli," meddai Mr Jones.

Disgrifiad o’r llun,
Dadl y weinyddiaeth oedd bod yna waith adnewyddu'r adeilad

"Os byddai rhywun yn byw yn Rhuthun neu Gorwen eisiau mynd i Brestatyn erbyn 9.30 y bore, mae o bron yn amhosib hefo trafnidiaeth gyhoeddus."

Gwell cyfleusterau

Ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn pwysleisio manteision canoli. Maen nhw'n dweud trwy wella cysylltiadau fideo bod dim rhaid cludo diffynyddion o'r ddalfa ar gyfer pob gwrandawiad.

Wrth gydnabod bod hyn yn achosi rhywfaint o drafferthion i bobl mae'r cyfreithiwr gyda chwmni Gamlins, Gwyn Jones yn dweud bod yna fanteision:

"Mae'n rhaid cofio bod 'na lawer iawn mwy o ganoli er mwyn rhoi y gwasanaeth gorau a defnyddio'r cyfleusterau yn well."

Defnyddio'r adeilad

Rŵan mae'r cyngor wedi penderfynu prynu'r llys ac yn gobeithio y bydd yn lle i gofnodi hanes y dref. Mae hynny yn rhywbeth mae John Glyn Jones yn ei groesawu:

"Mae 'na rhai yn gweithio yn galed iawn a deud y gwir, wedi ffurfio pwyllgor i edrych mewn i gael amgueddfa yn Ninbych. Ac mae'r adeilad lle oedd llys ynadon yn un adeilad mai nhw yn edrych arno fo.

"Mae 'na lawer iawn o bethau gellid eu rhoi yn yr amgueddfa gan gynnwys stwff o'r hen ysbyty meddwl ac ..ar ôl y steddfod mae 'na gadair hefyd!"